Croeso i Wrecsam - Estyn

Croeso i Wrecsam

Spotlight

Mae proffil lleol, cenedlaethol a rhyngwladol Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Mae Dysgu Cymraeg Gogledd Dwyrain wedi manteisio’n fuddiol ar hyn trwy greu partneriaeth â’r clwb gyda thiwtor llawn amser wedi’i leoli yno. Mae’r tiwtor yn darparu gwersi un i un neu mewn grwpiau bychain i amrywiaeth o bobl gan gynnwys chwaraewyr, rheolwyr, staff y siop, ymwelwyr a’r perchnogion. Un o gryfderau pennaf y ddarpariaeth yw bod y tiwtor yn addasu a theilwra nod y gwersi’n effeithiol iawn i ddiwallu anghenion y dysgwyr, er enghraifft trwy ymarfer rhifolion, geiriau a chystrawennau perthnasol. Yn ogystal, mae’r tiwtor yn cefnogi staff allweddol i ymateb i gwestiynau cyfweliad gan y cyfryngau yn hyderus. Mae hyn oll yn cyfrannu’n llwyddiannus at broffil uchel i’r iaith a defnydd cynyddol ohoni.