Creu dysgwyr gweithredol ac annibynnol: Mwy na geiriau - Estyn

Creu dysgwyr gweithredol ac annibynnol: Mwy na geiriau

Spotlight

Mae rhaglenni Codi Hyder yn cael effaith amlwg a phellgyrhaeddol. Drwy dargedu staff yn y byrddau iechyd mae tiwtoriaid arbenigol yn cynnig cymorth a mentora hynod effeithiol i ddysgwyr cryf a siaradwyr di-hyder. Mewn byr o dro mae llawer o’r bobl hyn yn dechrau defnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith gyda chydweithwyr a gyda chleifion. Maent yn defnyddio’r Gymraeg yn fuddiol dros ben i ymlacio cleifion ac ennill eu hymddiriedaeth mewn sefyllfaoedd sensitif iawn. Er enghraifft, mae nyrsys adrannau gwahanol a staff adrannau seicoleg yn cyfathrebu â chleifion a’u teuluoedd yn Gymraeg er budd y claf a’r broses gyfathrebu. Yn sgil magu hyder ieithyddol mae therapyddion iaith a lleferydd yn defnyddio’r Gymraeg gyda chleifion ag anghenion ychwanegol neu’r rheiny sydd yn ei chael hi’n anodd i siarad yn dilyn cael strôc. Mae therapyddion galwedigaethol yn normaleiddio defnydd cymunedol o’r iaith gyda chleifion yn fuddiol. Mae hyn oll yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r gwasanaethau a gynigir gan ymarferwyr proffesiynol trwy gyfrwng y Gymraeg.