Ysgol Gynradd Brynsiencyn - Estyn
Primary - Isle of Anglesey County Council

Ysgol Gynradd Brynsiencyn

Estyn logo on a blue background

Spotlights

Spotlight

Disgyblion hŷn yn meithrin annibyniaeth yn eu medrau digidol

This spotlight is currently only available in Welsh

Mae athrawon yn defnyddio adborth amserol yn effeithiol i gefnogi disgyblion i wirio, gwerthuso a gwella eu gwaith yn barhaus. O ganlyniad, mae’r disgyblion hŷn yn cymryd perchnogaeth gynyddol o'u dysgu ac yn datblygu eu hannibyniaeth yn fwriadus wrth ddefnyddio eu medrau digidol. Wrth fireinio'r medrau hyn, mae'r ysgol yn rhoi pwyslais cryf ar ddatblygu medrau digidol manwl y disgyblion. Er enghraifft, maent yn defnyddio'u medrau i ddadansoddi eu gwaith dylunio digidol, gan ystyried ystod eang o nodweddion, cyn cymhwyso'r hyn y maent wedi ei ddysgu i wella eu gwaith eu hunain. Mae hyn, yn ei dro, yn cefnogi llawer i gynhyrchu gwaith estynedig a chreadigol o safon uchel.

Details

Address

Brynsiencyn
Llanfairpwll
LL61 6HZ