Ciplun: Datblygu capasiti'r gweithlu drwy gyfleoedd dysgu proffesiynol - Estyn

Ciplun: Datblygu capasiti’r gweithlu drwy gyfleoedd dysgu proffesiynol

Spotlight

Mae arweinwyr yn datblygu capasiti’r gweithlu yn fwriadus drwy gynnig cyfleoedd dysgu proffesiynol i athrawon ymuno â’r tîm trochi am gyfnod penodol. Mae’r profiadau hyn yn galluogi ymarferwyr i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o addysgeg caffael iaith, cydweithio’n agos ag ymarferwyr profiadol ac ymarfer dulliau trochi hwyr effeithiol. O ganlyniad, mae athrawon yn dychwelyd i’w hysgolion gydag arbenigedd cynyddol i gefnogi disgyblion sy’n hwyrddyfodiaid a chydweithwyr. Yn ogystal, mae’r trefniadau hyn yn datblygu llif cynaliadwy o ymarferwyr medrus, yn cryfhau arweinyddiaeth ddosranedig, ac yn cynyddu gallu’r awdurdod lleol i ehangu’r ddarpariaeth drochi mewn ffordd strategol.