Hyrwyddo’r Gymraeg a Chymreictod fel rhan annatod o fywyd a gwaith yr ysgol - Estyn

Hyrwyddo’r Gymraeg a Chymreictod fel rhan annatod o fywyd a gwaith yr ysgol

Spotlight

Mae’r Gymraeg yn rhan annatod o fywyd a gwaith yr ysgol. Mae staff, ynghyd â chefnogaeth werthfawr y ‘Criw Cymraeg’, yn cefnogi disgyblion i arddel a defnyddio’r Gymraeg yn gyson fel rhan greiddiol o’u chwarae a’u dysgu. Trwy ddefnyddio llwyfannau digidol yn greadigol ac ymweliadau rheolaidd â’r gymuned leol, mae’r ‘Criw Cymraeg’ yn modelu patrymau iaith defnyddiol ac yn hyrwyddo manteision dwyieithrwydd yn effeithiol. Mae hyn yn cymell disgyblion, staff sy’n ddysgwyr a rhieni i ddefnyddio’r Gymraeg yn fwy hyderus.Yn ogystal, mae arweinwyr a staff yn cyfoethogi profiadau dysgu disgyblion yn fwriadus trwy gydweithio ag ystod eang o bartneriaid. Er enghraifft, mae disgyblion yn cyfweld â chwaraewraig pêl-droed rhyngwladol Cymru ar bodlediad ac yn cydweithio’n ddiwyd â dylunydd adnabyddus i greu comig yn seiliedig ar hanes y bardd Dafydd Llwyd. O ganlyniad i’r profiadau cyfoethog hyn, mae disgyblion yn meithrin dealltwriaeth gadarn o werth y Gymraeg fel iaith fyw ac yn ymfalchïo yn eu hunaniaeth Gymreig.