Cydweithio effeithiol â’r gymuned leol i gyfoethogi’r ddarpariaeth a datblygu gwerthfawrogiad disgyblion o’u bro
Mae gan yr ysgol gysylltiadau hynod gryf â’r gymuned leol ble mae aelodau o’r gymuned yn ymweld â’r ysgol yn rheolaidd i rannu eu harbenigeddau a’u profiadau gyda disgyblion. Enghraifft nodedig o hyn yw’r cydweithio rhwng yr ysgol a phentref Llangristiolus wrth gynllunio a threfnu ‘Gig Henblas’ yn flynyddol. Mae disgyblion yn cydweithio’n agos gyda busnesau a sefydliadau lleol i godi arian a threfnu digwyddiad cymunedol llwyddiannus ar dir yr ysgol.Fel rhan o’r gwaith hwn, mae athrawon yn cynllunio gweithgareddau mentergarwch pwrpasol sy’n datblygu medrau arweinyddiaeth, llythrennedd, rhifedd a digidol y disgyblion yn effeithiol. Mae’r disgyblion yn cymryd cyfrifoldeb mewn ystod eang o dasgau, gan gynnwys cyfathrebu â noddwyr, gwerthu tocynnau, trefnu adnoddau a rheoli cyllideb. Mae’r profiadau hyn yn llwyddiannus wrth ddatblygu hyder, annibyniaeth a dealltwriaeth disgyblion o bwysigrwydd cyfrannu’n weithredol at eu cymuned leol.