Defnyddio strategaethau asesu effeithiol i wella ymgysylltiad a deilliannau disgyblion, a’u dealltwriaeth o sut maent yn dysgu.

Arfer effeithiol

Plasmarl Primary School


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Plasmarl wedi’i lleoli tua dwy filltir i’r dwyrain o ganol dinas Abertawe. Mae 230 o ddisgyblion ar y gofrestr, yn cynnwys 47 o ddisgyblion meithrin. Mae 25% o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol (SIY). Mae tua 42% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ac mae gan 25% anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Ar ôl cyflwyno Cwricwlwm i Gymru, cytunodd yr ysgol fod angen adolygu prosesau asesu presennol. Y weledigaeth oedd datblygu ymagwedd ysgol gyfan yn canolbwyntio ar gynnydd disgyblion unigol. 

I roi arweiniad newydd ar ddiwygio’r cwricwlwm ar asesu ar waith, datblygwyd ‘pecyn cymorth asesu’ i helpu disgyblion i asesu eu gwaith mewn amrywiaeth o ffyrdd, yn cynnwys asesu mewn dysgu, asesu ar gyfer dysgu, ac asesu dysgu. Mae hyn yn galluogi disgyblion i ddeall eu taith ddysgu, sut i wella’u gwaith ymhellach a deall eu camau nesaf.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Creodd uwch arweinwyr becyn cymorth asesu’r ysgol, gan ddefnyddio’u canfyddiadau o ymchwil ac ymholi, i wella asesu mewn dysgu, ac asesu ar gyfer dysgu ar draws yr ysgol. Mae’r pecyn cymorth yn cynorthwyo staff i ddeall yr ymagwedd ysgol gyfan at addysgeg. 

Yn ystod cyfleoedd dysgu proffesiynol, nododd staff y strategaethau asesu ar gyfer dysgu / asesu mewn dysgu sy’n diwallu anghenion pob disgybl orau. Cytunodd staff ar iaith gyffredin ar gyfer asesu i sicrhau cysondeb ar draws yr ysgol pan mae disgyblion yn myfyrio ar eu dysgu. Datblygodd staff eu dealltwriaeth o sut i gynorthwyo disgyblion i greu meini prawf llwyddiant pwrpasol ac ystyried y prosesau sydd eu hangen i gyflawni eu hamcan dysgu. 

Mae disgyblion yn cyfrannu at eu dysgu ac yn awgrymu syniadau ar gyfer dysgu yn y dyfodol bob wythnos. Mae hyn yn cynyddu ymgysylltiad a chymhelliant disgyblion yn sylweddol, a’u deilliannau yn y pen draw. Mae disgyblion yn datblygu’n dda fel dysgwyr annibynnol; maent yn esbonio’r cyfraniadau y maent wedi’u gwneud ac yn creu cysylltiadau â’u dysgu, gan ddisgrifio’r medrau y maent yn eu datblygu yn hyderus. 

Mae athrawon yn sicrhau bod disgyblion yn datblygu amrywiaeth addas o ymagweddau at eu dysgu, yn cynnwys cymryd rôl weithredol mewn asesu eu gwaith eu hunain a gwaith eu cyfoedion, gan ddefnyddio meini prawf llwyddiant wedi’u cyd-greu. Maent yn defnyddio adborth yn effeithiol i nodi eu camau nesaf eu hunain mewn dysgu. O ganlyniad, mae disgyblion wedi’u cymell i wella’u gwaith ac yn deall beth maent yn ei ddysgu, a sut. 

Mae disgyblion hŷn yn cyfarfod ag athrawon bob tymor i drafod beth maent yn ei wneud yn dda, beth yw eu camau nesaf mewn dysgu a sut beth fydd dysgu iddynt wrth symud ymlaen. Mae disgyblion yn datblygu dealltwriaeth gadarn o’u cryfderau a’u meysydd i’w gwella.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

  • Mae’r pecyn cymorth asesu yn darparu model asesu gwerthfawr ar gyfer pob un o’r staff ac yn cynorthwyo disgyblion yn effeithiol i ddeall eu dysgu a’r cynnydd a wnânt. 
  • Mae strategaethau asesu effeithiol wedi arwain at lefelau uchel o gynnydd ac ymgysylltiad disgyblion â dysgu. 
  • Mae disgyblion yn meddu ar fedrau asesu datblygedig sy’n eu galluogi i asesu eu gwaith eu hunain a gwaith disgyblion eraill yn bwrpasol. 
  • Mae disgyblion yn datblygu ystod eang o strategaethau i asesu a symud eu dysgu ymlaen. 
  • Mae disgyblion yn gwerthfawrogi’r cyfraniadau a wnânt i’w dysgu ac yn siarad yn hyderus ac yn frwdfrydig am eu dysgu. 
  • Mae disgyblion yn datblygu’n dda fel dysgwyr annibynnol.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi rhannu ei harfer effeithiol ag ysgolion lleol ac ar draws yr awdurdod lleol.


Other resources from this provider

Defnyddio strategaethau asesu effeithiol i wella ymgysylltiad a deilliannau disgyblion, a’u dealltwriaeth o sut maent yn dysgu. - Estyn