Creu diwylliant cryf a gwerthfawrogiad o’r Gymraeg a’i threftadaeth.

Arfer effeithiol

Pen-Y-Dre High School


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Uwchradd Pen y Dre yn ysgol cyfrwng Saesneg 11-16 a gynhelir gan awdurdod lleol Merthyr Tudful. Mae 942 o ddisgyblion o oedran ysgol statudol ar y gofrestr. Mae tua 31% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae’r ysgol yn gwasanaethu dalgylch sy’n cynnwys ystâd fawr Gurnos, yn ogystal â nifer o gymunedau’r Cymoedd ar gyrion Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Daw disgyblion o chwe ysgol gynradd bartner, yn bennaf. Mae bron pob un o’r disgyblion yn siarad Saesneg fel eu hiaith gyntaf ac yn dod o gefndir gwyn Prydeinig. Mae gan 221 o ddisgyblion anghenion addysgol arbennig (23.5%). Canran y disgyblion sy’n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol (SIY) yw 5.8%. Mae 23 o ddisgyblion ar y gofrestr (2.4%) yn blant sy’n derbyn gofal (PDG). Mae’r uwch dîm arweinyddiaeth yn cynnwys y pennaeth, y dirprwy bennaeth, tri phennaeth cynorthwyol, cydlynydd ADY, rheolwr busnes ac uwch arweinydd (ar secondiad).

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae Ysgol Uwchradd Pen y Dre wedi datblygu diwylliant cryf a gwerthfawrogiad o’r Gymraeg a’i threftadaeth ar draws y gymuned leol. Mae’r ysgol wedi gweithio’n strategol i ddatblygu’r Gymraeg fel rhan o fywyd ysgol bob dydd. Cyflawnwyd hyn trwy strategaethau addysgu a dysgu effeithiol i ddatblygu medrau disgyblion a sicrhau ymdeimlad o ‘gynefin’ tuag at y Gymraeg a’i threftadaeth. Trwy gynnwys y gymuned gyfan yn fedrus, ac yn enwedig rhieni, mae’r ysgol wedi meithrin awydd i ddatblygu dwyieithrwydd i bawb.  

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae dull yr ysgol yn gosod y Gymraeg yn naturiol wrth wraidd bywyd yr ysgol. Mae’r strategaeth drosfwaol yn adlewyrchu’r genhadaeth genedlaethol i drefnu bod y Gymraeg ar gael i bawb, gan ganolbwyntio ar ymdeimlad dwfn o berthyn trwy ddefnydd gydol oes o’r iaith a hyrwyddo arferion a  thraddodiadau. Defnyddir llais y disgybl yn effeithiol i ddatblygu’r defnydd o’r Gymraeg, hanes a threftadaeth Cymru ar draws cymuned yr ysgol gyfan. Mae’r ‘Criw Cymraeg’ yn cynrychioli pob grŵp blwyddyn, cefndir a gallu, a sefydlwyd ‘Cymdeithas Gymraeg Pen Y Dre’ ar gyfer pob un o’r staff a’r cyn-ddisgyblion i gefnogi eu ‘cynefin’.  

Defnyddir cyd-destunau bywyd go iawn yn fedrus. Mae’r rhain yn cynnwys: 

  • Cydlynu Eisteddfod y clwstwr. Mae hyn yn cynnwys disgyblion presennol a chyn-ddisgyblion yn yr ysgol yn trefnu ac yn cynnal y diwrnod ar gyfer yr ysgolion cynradd. Gall disgyblion Pen y Dre ymarfer eu medrau siarad Cymraeg wrth iddynt arwain y diwrnod, ac mae disgyblion cynradd yn cael cyfleoedd gwerthfawr i berfformio trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Ymweliadau â’r ysgol gan Swyddog lleol yr Urdd bob pythefnos, trwy weithio gyda grwpiau Blwyddyn 7 a Blwyddyn 11. Yn ychwanegol, mae disgyblion yn cwblhau prosiectau tymhorol yn canolbwyntio ar ddatblygu medrau llafaredd gyda Swyddog Datblygu Ieuenctid y Fenter Iaith leol, ac yn perfformio yn Gymraeg mewn nifer o leoliadau ar draws y fwrdeistref ar Ddydd Gŵyl Dewi. 
  • Clwb Eisteddfod sefydledig gyda chynrychiolaeth o bob grŵp blwyddyn. Mae’r grŵp yn ymarfer bob dydd ac yn cystadlu mewn Eisteddfodau lleol ar benwythnosau ledled De Cymru, ac yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd bob blwyddyn, hefyd.  

  • Mwynhau ymweliadau rheolaidd ag ardaloedd pwysig o hanes Cymru, fel Senghennydd, Aberfan, Cilmeri, Bannau Brycheiniog, Yr Ysgwrn, Eryri a Thryweryn, er mwyn adeiladu ar yr hyn y maent wedi’i ddysgu yn yr ystafell ddosbarth sy’n gysylltiedig â’r lleoedd hyn. Mae’r disgyblion yn creu ffilmiau gwybodaeth dwyieithog ar ôl yr ymweliadau, a rhannwyd yr adnoddau hyn i’w defnyddio gan bob ysgol ledled Cymru. 
  • Defnyddio’r Gymraeg fel rhan naturiol o ddarpariaeth Cynllun Gwobr Dug Caeredin.  

              

  • Arwain clwb chwaraeon dwyieithog bob wythnos ar ôl yr ysgol ar gyfer disgyblion Blwyddyn 4-6 o ysgolion cynradd partner Pen Y Dre, ar y cyd â Chwaraeon Yr Urdd.   
  • Dathlu digwyddiadau ysgol gyfan ac yn y gymuned, yn cynnwys Dydd Miwsig Cymru, Dydd Santes Dwynwen, Dydd Gŵyl Dewi, Diwrnod Owain Glyndŵr a Diwrnod Shwmae Su’mae.  
  • Gweithio gyda phartneriaid allanol allweddol fel yr Urdd, Menter Iaith a S4C.

Agwedd bwysig ar y dull yw’r berthynas agos rhwng y Gymraeg a chyfadrannau’r celfyddydau mynegiannol. Mae’r celfyddydau mynegiannol yn cynorthwyo disgyblion i baratoi ar gyfer Eisteddfodau a’u galluogi i gystadlu mewn drama, llefaru, perfformiadau cerddorol a dawns, ynghyd â llafaredd, llythrennedd, creu ffilmiau a gwaith celf a chrefft. Mae disgyblion yn mwynhau’r gweithgareddau ac wedi magu hyder, ac maent yn cystadlu’n rheolaidd mewn categorïau Cymraeg iaith gyntaf, yn ogystal â dysgwyr Cymraeg. Mae’r ysgol yn creu ffilmiau cyfrwng Cymraeg a gwaith celf ynghyd ag arddangosfeydd celf cyhoeddus cyfrwng Cymraeg.  

Mae’r ysgol yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar strategaethau i gefnogi menter Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr ar draws addysg cyfrwng Saesneg. Ar hyn o bryd, maent yn cyflwyno dau gynllun peilot mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a chwmni Say Something in Welsh. Nod y ddau gynllun peilot yw newid darpariaeth bresennol a chael nifer fwy o lawer o siaradwyr Cymraeg hyderus dros 16 oed o leoliadau cyfrwng Saesneg.  

Mae staff yn Ysgol Uwchradd Pen y Dre yn hapus i ddefnyddio’r Gymraeg yn achlysurol yn eu gwaith, ac yn mynd ati i chwilio am gyfleoedd i ddatblygu medrau cyfathrebu yn Gymraeg mewn gweithgareddau addysgu ffurfiol a sefyllfaoedd anffurfiol. Ceir geiriau ac ymadroddion allweddol wythnosol yn Gymraeg i ddatblygu cymhwysedd disgyblion a staff mewn defnyddio’r Gymraeg, ac mae sawl aelod o staff yn dysgu Cymraeg trwy’r cwrs ‘Eisiau Dysgu Cymraeg?’ a gynigir gan yr ysgol.  

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r profiadau dysgu cynhwysol wedi darparu diwylliant cryf o werthfawrogi a balchder yn y Gymraeg a’i threftadaeth yng nghymuned yr ysgol gyfan. Mae staff yr ysgol yn sicrhau amgylchedd gweithio dyddiol lle mae’r defnydd o’r Gymraeg yn ffynnu. Mae disgyblion yn ymateb yn ffafriol, gan ymfalchïo yn eu cyfraniad mewn creu ysgol ddwyieithog gynhwysol. Mae’r gwaith hwn wedi cael effaith ffafriol ar ddeilliannau o fewn Cymraeg ail iaith yng nghyfnod allweddol 4 hefyd, lle mae cyrhaeddiad gryn dipyn yn uwch na disgwyliadau wedi’u modelu a chyfartaleddau tebyg. 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Ysgol Uwchradd Pen y Dre oedd yr ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg gyntaf yng Nghymru y dyfarnwyd Gwobr Aur y Siarter Iaith iddi, ac mae’r ysgol wrthi’n mentora nifer o ysgolion ar draws rhanbarth Canolbarth y De a rhanbarthau eraill ar hyn o bryd. Mae arweinydd y gyfadran wedi gweithredu mewn rôl gynghori mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol Abertawe, Powys, Sir Gaerfyrddin a Gwynedd, ac wedi arwain hyfforddiant ar gyfer yr holl ysgolion ledled ardal Consortiwm Canolbarth y De, gan rannu arfer dda ac adnoddau.


Other resources from this provider

Creu diwylliant cryf a gwerthfawrogiad o’r Gymraeg a’i threftadaeth. - Estyn