Adeiladu pontydd: defnyddio byrddau cyflogwyr i ddatblygu darpariaeth prentisiaeth arloesol.

Arfer effeithiol

Gower College Swansea


Gwybodaeth am yr ysgol / y darparwr

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn gweithio mewn partneriaeth â saith is-gontractwr i gyflwyno rhaglenni prentisiaeth ar lefelau 2 i 5 ledled Cymru. Mae’r coleg yn cyflwyno tua 85% o’i ddarpariaeth prentisiaethau yn uniongyrchol, a chyflwynir y 15% sy’n weddill trwy ei rwydwaith is-gontractwyr. Mae darpariaeth prentisiaethau wedi tyfu’n sylweddol er 2016, o ryw 250 o ddysgwyr i ryw 3,000 yn 2022-2023. Mae’r coleg, sy’n cyflwyno 82 o wahanol lwybrau / lefelau prentisiaethau i dros 1,200 o gyflogwyr, hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd i gyd-gyflwyno prentisiaethau gradd.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Yn 2017, creodd Coleg Gŵyr Abertawe strategaeth i ymestyn cydweithredu â chyflogwyr. I fod ar y blaen o ran anghenion medrau sy’n esblygu’n barhaus a sicrhau bod gofynion cyflogwyr yn cael eu deall, creodd y coleg 8 bwrdd cyflogwyr – gan arwain at gyd-greu darpariaeth.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Canolbwyntiodd y bwrdd cyflogwyr cyntaf ar arbenigeddau digidol. Gan fod cwmnïau’n cynyddu eu buddsoddiad mewn technolegau, roedd bwlch cynyddol yn dod i’r amlwg o ran medrau digidol. Ymunodd cynrychiolwyr o gwmnïau lleol a chenedlaethol mawreddog â’r bwrdd. Nod y bwrdd oedd adolygu arlwy darpariaeth bresennol y coleg, trafod beth arall oedd ei angen, a rhagweld gofynion medrau yn y dyfodol. “Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn gweithio gydag arbenigwyr yn y diwydiant TG ac sydd ar flaen y gad o ran arloesi technoleg newydd i ddatblygu a chyflwyno prentisiaethau sy’n gweithio ar gyfer heddiw, a pharatoi gweithlu yfory ar gyfer y dyfodol.” Aelod Bwrdd a Phrif Weithredwr egin fusnes a busnes sydd wrthi’n tyfu. 

Yn ddiweddarach, datblygwyd byrddau cyflogwyr newydd mewn sectorau allweddol eraill fel y diwydiannau creadigol. “Mae’r bwrdd, sy’n cynnwys dros 30 o gyflogwyr ar draws De Cymru, yn ceisio mynd ati i gyfuno profiad ym maes diwydiant gyda chwricwlwm blaengar sydd wir yn gallu helpu ffurfio doniau creadigol y dyfodol.” Cadeirydd Bwrdd a sylfaenydd asiantaeth dylunio digidol. 

Yn 2021, lansiodd y coleg Ysgol Fusnes Plas Sgeti. Arweiniodd hyn at greu ei fwrdd ymgynghorol, sy’n cynnwys ffigurau diwydiant allweddol o sefydliadau lleol, rhanbarthol a rhyngwladol. Un o nodau allweddol y bwrdd hwn yw datblygu darpariaeth wedi’i chymeradwyo gan gyflogwyr i gefnogi datblygiad economaidd. Mae’n bwysig fod gan y bwrdd hwn gynrychiolaeth unigol ar draws pob sector allweddol rhanbarthol a chenedlaethol.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Arweiniodd y bwrdd digidol yn gyflym at greu 6 fframwaith prentisiaethau newydd, yn cynnwys seiberddiogelwch a dadansoddi data, nad oeddent i gyd ar gael yn y rhanbarth o’r blaen. “Mae’r rhaglenni hyn wedi cael eu datblygu mewn cydweithrediad â bwrdd ymgynghorol cyflogwr y coleg i sicrhau eu bod yn gyfredol a pherthnasol, yn darparu cyfleoedd sylweddol i ddysgwyr o ran cyflogaeth a dilyniant.” Cadeirydd y Bwrdd. Ers dechrau’r bwrdd, mae’r coleg wedi cefnogi 592 o brentisiaid digidol a 273 o gyflogwyr. 

Arweiniodd y bwrdd diwydiannau creadigol at bartneriaeth â chwmni animeiddio o Gymru sydd wedi ennill sawl gwobr, gan arwain at greu academi animeiddio arbenigol. Gall unigolion ddilyn prentisiaeth uwch Lefel 4/5 yng nghyfryngau’r sgrin a’r cyfryngau creadigol, ac wedyn mynd ar leoliadau gwaith yn un o stiwdios mwyaf blaenllaw Cymru. Y fenter hon yw prentisiaeth gyntaf y byd sy’n canolbwyntio ar Blender (offeryn meddalwedd graffeg cyfrifiadur ffynhonnell agored 3D).

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi ennill 8 gwobr prentisiaeth y DU yn y 5 mlynedd ddiwethaf, sydd wedi galluogi rhannu arfer orau â darparwyr ac ymarferwyr dysgu yn y gwaith eraill ledled y DU. Yn lleol, oherwydd llwyddiant eu bwrdd cyflogwyr digidol, ar gais y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol (RSLP), unwyd y bwrdd â chlwstwr technoleg RLSP, gan alluogi dealltwriaeth well o ofynion diwydiant ar draws rhanbarth y de orllewin.


Adeiladu pontydd: defnyddio byrddau cyflogwyr i ddatblygu darpariaeth prentisiaeth arloesol. - Estyn