Polisi a Datganiad Amgylcheddol - Estyn

Polisi a Datganiad Amgylcheddol


Mae Estyn wedi nodi bod ein prif effeithiau ar yr amgylchedd yn deillio o’r defnydd o ynni, cludiant, cynhyrchu gwastraff a defnyddio deunyddiau swyddfa. Bydd Estyn yn ceisio lleihau ei effeithiau ar yr amgylchedd i’r eithaf trwy ymrwymiad i set gynhwysfawr o amcanion ar gyfer gwella, sef:

  • Parhau i ddefnyddio ynni’n effeithlon a monitro’r CO2 a gynhyrchir, gan anelu at ostyngiad o 10% dros y pum mlynedd nesaf (ar sail ffigurau 2017-2018).
  • Yn unol ag ymrwymiad “Tuag at Ddyfodol Diwastraff” LlC, cynyddu ailgylchu 5% dros y pum mlynedd nesaf (ar sail ffigurau 2013-2014).
  • Yn unol ag ymrwymiad “Tuag at Ddyfodol Diwastraff” LlC, lleihau deilliannau gwastraff 1.2% flwyddyn ar ôl blwyddyn tan 2050 (ar sail ffigurau 2013-2014).
  • Lleihau effaith cludiant y sefydliad gan gyfrannu at y targed i leihau CO2 (amcan 1).
  • Cyfleu mentrau amgylcheddol a’n hymrwymiad i gynaliadwyedd ehangach i’r cyhoedd a’r staff.
  • Parhau i ymgorffori ystyriaethau amgylcheddol mewn gweithdrefnau prynu.