Partner Dysgu a Datblygu a Datblygu Sefydliadol
Rydym ni’n chwilio am Bartner Dysgu a Datblygu a Datblygu Sefydliadol i gefnogi mentrau allweddol ar draws gweithrediadau Dysgu a Datblygu, Datblygu Sefydliadol, a gweithrediadau Pobl cyffredinol. Mae’r rôl hon yn canolbwyntio ar strategaethau datblygu ac ymgysylltu â chyflogeion.
Tasgau allweddol:
- Partneru â rheolwyr i gynnal dadansoddiad o anghenion hyfforddi, llywio strategaeth dysgu a datblygu’r sefydliad a hyrwyddo dilyniant gyrfa, a chadw.
- Datblygu a chyflwyno atebion dysgu teilwredig i fynd i’r afael â bylchau mewn medrau a chefnogi twf cyflogeion.
- Cynorthwyo’r Rheolwr Pobl a Datblygu Sefydliadol â chyflwyno mentrau rheoli doniau a chynllunio olyniant
- Rheoli a goruchwylio rhaglenni ymsefydlu ar gyfer gweithwyr newydd, gan sicrhau profiadau cynefino di-dor.
- Cynorthwyo’r Rheolwr Pobl a Datblygu Sefydliadol i gyfleu newidiadau polisi Pobl trwy raglenni hyfforddi difyr ac arloesol.
- Gyrru mentrau ymgysylltu â chyflogeion, gan gynnwys arolygon blynyddol, a datblygu strategaethau i fynd i’r afael ag anghenion a nodwyd.
- Rheoli’r gyllideb dysgu a datblygu yn unol â threfniadau llywodraethu’r sefydliad.
- Bod yn rheolwr llinell ar Gynghorwyr Pobl / Datblygu Sefydliadol, gan ddarparu arweiniad a chyngor ar faterion adnoddau dynol, cyfleoedd datblygu, a rheoli perfformiad cyffredinol.
- Cefnogi mentrau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan gynnwys cynorthwyo rheolwyr â chwblhau asesiadau o effaith ar gydraddoldeb.
- Monitro a gwerthuso effeithiolrwydd rhaglenni dysgu ac addasu strategaethau i ddiwallu anghenion sefydliadol sy’n esblygu.
- Cynllunio, adolygu a gweithredu pecyn buddion a rhaglenni adnabod Estyn i ddenu a chadw’r doniau gorau.
- Mynychu cyfarfodydd mewnol perthnasol, gan gynnwys pwyllgorau, byrddau a grwpiau a dirprwyo dros y Rheolwr Pobl a Datblygu Sefydliadol, lle mae angen.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill a allai fod yn ofynnol yn rhesymol.
Hyd: Parhaol
Cyflog: £35,787 – £43,758
Oriau gwaith a gweithio hyblyg: Yr oriau amser llawn yw37 awr, 5 diwrnod yr wythnos (dydd Llun i ddydd Gwener), ac eithrio egwylion.
Dyddiad cau: 10:00yb ar 24 Mawrth 2025
Ffurflen gais: JobBoard