Adolygiad Blynyddol o’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2017-2018 - Estyn

Adolygiad Blynyddol o’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2017-2018


Y ddogfen hon yw’r Diweddariad Cynnydd Blynyddol cyntaf yn erbyn Cynllun Cydraddoldeb Strategol (CCS) Estyn 2016-2020 ac mae’n cwmpasu’r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2017 a 31 Mawrth 2018.

Mae’r CCS yn ategu Amcanion Cydraddoldeb Estyn ac yn amlinellu gwybodaeth allweddol am ein gweithgarwch cydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau dynol. Yn ogystal â chyflawni ein dyletswydd dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae’n ystyried ystod eang o ddeddfwriaeth arall sy’n gysylltiedig â chydraddoldeb ac amrywiaeth.

Mae dyletswydd gyffredinol Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus roi ‘ystyriaeth briodol’ i’r angen i:

  • ddileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon ac ymddygiad arall sy’n cael ei wahardd gan y Ddeddf
  • datblygu cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a’r rheiny nad ydynt yn rhannu nodwedd
  • meithrin perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rhai nad ydynt yn rhannu nodwedd

Mae’r CCS yn cwmpasu’r holl nodweddion gwarchodedig sy’n ofynnol dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, sef:

  • oedran
  • anabledd
  • ailbennu rhywedd
  • priodas a phartneriaeth sifil
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • hil (gan gynnwys tras ethnig neu genedlaethol, lliw neu genedligrwydd)
  • crefydd neu gred (neu ddiffyg cred)
  • rhyw a chyfeiriadedd rhywiol