Gweithio i Estyn
Yn Estyn, rydym yn cydnabod mai ein pobl yw ein hadnodd mwyaf gwerthfawr.
Fel sefydliad sy’n cael ei osod ymhlith sefydliadau gorau’r Gwasanaeth Sifil yn gyson yn Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil, ac fel sefydliad Buddsoddwr Mewn Pobl (Aur), gwyddom fod ein pobl
yn hynod ymroddedig i’n gwaith.
Trwy ddewis gweithio i ni, byddwch yn rhan o sefydliad sy’n cynnig profiad unigryw i’r gweithiwr, yn cynnwys:
- Balchder wrth gefnogi ein cenhadaeth, sef cynnig atebolrwydd i’r cyhoedd am ansawdd a
safonau darpariaeth addysg a hyfforddiant - Cyfleoedd i lywio datblygiad polisïau cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru
- Boddhad eich bod yn helpu i feithrin gallu i wella’r system addysg a hyfforddiant yng
Nghymru
Bydd Estyn yn cynnig:
- Arweinyddiaeth a gwerthoedd cadarn
- Cyfathrebu agored ac ymrwymiad i welliant parhaus
- Buddsoddiad sylweddol yn eich datblygiad personol a phroffesiynol