Effaith gwaith y Ganolfan Les ar ddisgyblion, staff a theuluoedd.

Arfer effeithiol

Ysgol Hen Felin


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Hen Felin yn ysgol arbennig a gynhelir gan awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf ar gyfer disgyblion ag anawsterau dysgu difrifol, anhwylderau’r sbectrwm awtistig, anawsterau dysgu dwys a lluosog, ac anghenion meddygol cymhleth. 

Mae’r ysgol wedi’i lleoli mewn ardal breswyl yn Ystrad Rhondda. Mae bron pob un o’r disgyblion yn mynychu’r prif safle. Mae gan yr ysgol dri dosbarth sydd wedi’u lleoli mewn darpariaeth loeren ar Gampws Rhondda Coleg Y Cymoedd ar gyfer disgyblion 16-19 mlwydd oed. 

Mae’r ysgol yn darparu ar gyfer 237 o ddisgyblion rhwng 3 ac 19 oed, ac mae gan bron bob un ohonynt ddatganiadau o anghenion addysgol arbennig, cynlluniau datblygu unigol (CDUau) neu gyfwerth. Mae anghenion disgyblion yn cynnwys anawsterau dysgu difrifol (ADD), anawsterau dysgu dwys a lluosog (ADDLl), anhwylderau’r sbectrwm awtistig (ASA) neu amhariad ar y golwg. 

Caiff disgyblion eu haddysgu mewn 22 ddosbarth. Mae 22 o athrawon amser llawn a 75 o gynorthwywyr cymorth dysgu.

Penodwyd y pennaeth ym mis Ionawr 2018. 

Mae Ysgol Hen Felin yn ysgol sy’n annog pob disgybl i gredu yn ei allu i gyflawni. Ei nod yw datblygu pob disgybl i’w lawn botensial, yn addysgol ac yn gymdeithasol mewn amgylchedd diogel a phwrpasol.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Sefydlodd yr ysgol Ganolfan Les ar y safle yn 2018 ac, ar ôl hynny, penododd swyddog lles amser llawn i arwain a rheoli’r ddarpariaeth. Trwy hunanwerthuso trylwyr, nododd yr ysgol nifer o flaenoriaethau y gellid mynd i’r afael â nhw trwy’r Ganolfan Les. Roedd y rhain yn cynnwys cynyddu ymgysylltiad a medrau rhieni, datblygu cysylltiadau cymunedol, ac ymestyn lles staff.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch a’r effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr.

Mae wedi dod i’r amlwg bod y Ganolfan Les yn hyb hanfodol ar gyfer ymestyn ymgysylltu â’r gymuned a hyrwyddo lles cyffredinol disgyblion, rhieni a staff. Ymhlith ei gweithgareddau amrywiol, mae grŵp cyn-diagnosis rhieni a phlant bach ‘Little Rainbows’ yn cefnogi teuluoedd â phlant ifanc sy’n wynebu heriau datblygiadol. Mae hyn yn darparu gofod hanfodol i rieni rannu profiadau, cael gwybodaeth a manteisio ar adnoddau ymyrraeth gynnar. 

Mae hyfforddiant a gweithdai wedi’u trefnu gan y Ganolfan Les yn chwarae rôl bwysig mewn arfogi rhieni â’r offer sydd eu hangen arnynt i ymdopi â’r cymhlethdodau wrth fagu plant ag anghenion penodol neu gymhleth. Mae’r sesiynau hyn yn cwmpasu ystod o destunau, o gynorthwyo disgyblion ag anghenion synhwyraidd, mynd i’r toiled a chysgu, a rheoli ymddygiad. Mae’r sesiynau hyn yn darparu arweiniad ymarferol gyda’r nod o wella hyder a chymhwysedd rhieni. 

Mae’r Ganolfan Les hefyd yn cynnig ystod o gyfleoedd addysgol i deuluoedd, sy’n anelu at eu grymuso â gwybodaeth a medrau. Er enghraifft, mae sesiynau’n canolbwyntio ar ddatblygu darllen, mathemateg, rhifedd a dysgu ar-lein. 

Mae’r Ganolfan Les yn darparu ystod o gymorth ar gyfer disgyblion presennol, er enghraifft sesiynau trin gwallt, clybiau ar ôl yr ysgol a chyflwyno mentrau lles emosiynol. 

Mae boreau coffi i rieni yn darparu fforwm hamddenol a gwerthfawr i rieni gyfarfod a rhannu eu profiadau. Mae anffurfioldeb y sesiynau hyn yn meithrin cyfathrebu agored ac yn galluogi rhieni i drafod heriau y gallent eu hwynebu, gan felly feithrin ymdeimlad cryf o gymuned. 

Mae sesiynau lles staff yn rhan annatod o gynnal gweithlu cefnogol ac effeithiol, er enghraifft trwy gyfleoedd cymdeithasol dan arweiniad y Ganolfan Les a dathlu cyflawniadau staff.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

  • Caiff y ddarpariaeth a gynigir trwy’r Ganolfan Les ei rhannu gyda disgyblion a rhieni newydd yn ystod cyfarfodydd derbyn, gwefan yr ysgol, cyfryngau cymdeithasol, cylchlythyrau’r ysgol, a thrwy brosbectws yr ysgol. 
  • Gwahoddir asiantaethau allanol i gyflwyno hyfforddiant trwy’r Ganolfan Les. 
  • Rhennir posteri / taflenni gyda rhieni a’r gymuned yn eu gwahodd i ddigwyddiadau.

Other resources from this provider

Effaith gwaith y Ganolfan Les ar ddisgyblion, staff a theuluoedd. - Estyn