Memorandwm Dealltwriaeth Rhaglen Arolygwyr Ymgynghorwyr Her
Mae’r ddogfen hon yn amlinellu rolau, cyfrifoldebau a disgwyliadau’r tri pharti o ran cyfranogiad Arolygwyr Ymgynghorwyr Her mewn arolygiadau ysgol.
Bydd Arolygwyr Ymgynghorwyr Her sy’n cwblhau’u hyfforddiant yn llwyddiannus yn cael eu rhoi ar restr a fydd yn cynnwys gwybodaeth sy’n cynnwys cyfeiriadau e-bost, enwau, cyfeiriadau, enw cyflogwr ac arbenigeddau. Bydd yr Arolygiaeth yn defnyddio’r rhestr ar gyfer defnyddio Ymgynghorwyr Her a rhannu gwybodaeth gyda’r Ymgynghorydd Her am ddatblygiadau yn yr Arolygiaeth a chyfleoedd am ddatblygiad a hyfforddiant. Bydd Ymgynghorwyr Her yn gallu mynd at Broffil Arolygydd personol a fydd yn cynnwys eu gwybodaeth bersonol; mae’n ofynnol iddynt sicrhau bod y proffil yn gyfredol drwy’r amser i sicrhau eu bod yn cael eu dosbarthu’n briodol ar arolygiad. Bydd arolygwyr cofnodol yn gallu gweld cyfeiriadau e-bost, enwau, cyfeiriadau ac arbenigeddau pob Ymgynghorydd Her ar eu Proffiliau Arolygydd unigol at ddibenion arolygu yn unig. Bydd pob Arolygydd Ymgynghorydd Her yn cael ffurflen gwerthuso arolygydd (FfGA) ar ei berfformiad. Dylai’r Ymgynghorydd Her rannu’r ffurflen hon gyda’i gyflogwr fel rhan o’i broses rheoli perfformiad. Mae’n bosibl y bydd cyflogwyr yn gofyn am gopi o’r FfGA gan bob Ymgynghorydd Her sydd wedi’i ddosbarthu ar arolygiad Estyn.
Mae’r partïon yn cydnabod dyletswydd yr Arolygiaeth i gydymffurfio â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y Ddeddf) ac yn deall y gallai fod yn ofynnol i’r Arolygiaeth ddatgelu gwybodaeth benodol i drydydd partïon. Bydd y cyflogwr ac Arolygwyr Ymgynghorwyr Her yn cynorthwyo’r Arolygiaeth i gydymffurfio â’r Ddeddf, yn unol â chais rhesymol gan yr Arolygiaeth.
Mae’r partïon yn cydnabod y bydd Arolygwyr Ymgynghorwyr Her bob amser yn un o gyflogeion y cyflogwr ac ni chânt eu hystyried yn un o gyflogeion yr Arolygiaeth. Ni fydd Arolygydd Ymgynghorydd Her yn cyflwyno’i hun fel petai’n gyflogai neu’n asiant yr Arolygiaeth.