Adroddiad amgylcheddol (gan gynnwys adrodd ar y ddyletswydd bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau) - Tachwedd 2020 - Estyn

Adroddiad amgylcheddol (gan gynnwys adrodd ar y ddyletswydd bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau) – Tachwedd 2020


Mae’n ofynnol i Estyn gydymffurfio â dyletswydd adran 6 o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Cyflwynodd y Ddeddf hon ddyletswydd fanylach ar fioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau (dyletswydd adran 6) ar gyfer awdurdodau cyhoeddus wrth arfer swyddogaethau yn gysylltiedig â Chymru. Mae dyletswydd adran 6 yn ei gwneud yn ofynnol ‘i awdurdod cyhoeddus geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth wrth arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru, ac wrth wneud hynny hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau, i’r graddau y bo hynny’n gyson ag arfer y swyddogaethau hynny’n briodol’.

I gydymffurfio â’r ddyletswydd adran 6, dylem ymgorffori ystyried bioamrywiaeth ac ecosystemau yn ein syniadau a’n cynllunio busnes cynnar, gan gynnwys unrhyw bolisïau, cynlluniau, rhaglenni a phrosiectau, yn ogystal â’n gweithgareddau o ddydd i ddydd.

Rhaid i ni gyhoeddi cynllun yn amlinellu’r hyn rydym yn cynnig ei wneud i gynnal a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo cydnerthedd. Hefyd, cyn diwedd 2019 a chyn diwedd pob trydedd flwyddyn ar ôl 2019, rhaid i ni gyhoeddi adroddiad ar yr hyn rydym wedi’i wneud i gydymffurfio â’r ddyletswydd adran 6. Dylai’r ddyletswydd adrodd ffurfio rhan o’n systemau adrodd arferol. Ni ddylai’r ddyletswydd adrodd fod yn feichus a dylai fod yn gymesur â maint y sefydliad a’r math o sefydliad ydym ni, o ran y camau y gallwn eu cymryd ar gyfer bioamrywiaeth.

Yn Estyn, rydym wedi cynnwys ein cynllun yn amlinellu’r hyn rydym yn bwriadu ei wneud i gynnal a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo cydnerthedd yn ein Polisi Amgylcheddol. Rydym hefyd yn cyhoeddi’r Adroddiad Amgylcheddol hwn yn flynyddol, sy’n cynnwys ein cydymffurfiad â’r ddyletswydd adran 6.