Adroddiad Cynaliadwyedd(gan gynnwys adrodd am y ddyletswydd bioamrywiaeth) Rhagfyr 2019 - Estyn

Adroddiad Cynaliadwyedd(gan gynnwys adrodd am y ddyletswydd bioamrywiaeth) Rhagfyr 2019


Mae’n ofynnol i Estyn gydymffurfio â dyletswydd adran 6 o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Cyflwynodd y Ddeddf hon ddyletswydd fanylach ar fioamrywiaeth a gwydnwch ecosystemau (dyletswydd adran 6) ar gyfer awdurdodau cyhoeddus wrth arfer swyddogaethau yn gysylltiedig â Chymru. Mae dyletswydd adran 6 yn ei gwneud yn ofynnol ‘i awdurdodau cyhoeddus geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth cyhyd ag y bo’n gyson â chyflawni eu swyddogaethau’n briodol, ac wrth wneud hynny, hyrwyddo gwydnwch ecosystemau’.

I gydymffurfio â’r ddyletswydd adran 6, dylem ymgorffori ystyried bioamrywiaeth ac ecosystemau yn ein syniadau a’n cynllunio busnes cynnar, gan gynnwys unrhyw bolisïau, cynlluniau, rhaglenni a phrosiectau, yn ogystal â’n gweithgareddau o ddydd i ddydd.

Rhaid i ni gyhoeddi cynllun yn amlinellu’r hyn rydym yn cynnig ei wneud i gynnal a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo gwydnwch. Hefyd, cyn diwedd 2019 a chyn diwedd pob trydedd flwyddyn ar ôl 2019, rhaid i ni gyhoeddi adroddiad ar yr hyn rydym wedi’i wneud i gydymffurfio â’r ddyletswydd adran 6. Dylai’r ddyletswydd adrodd ffurfio rhan o’n systemau adrodd arferol. Ni ddylai’r ddyletswydd adrodd fod yn feichus a dylai fod yn gymesur â maint y sefydliad ydym ni, a’r math o sefydliad, o ran y camau y gallwn eu cymryd ar gyfer bioamrywiaeth.

Yn Estyn, byddwn yn cynnwys ein cynllun yr hyn rydym yn cynnig ei wneud i gynnal a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo gwydnwch o fewn ein Polisi Amgylcheddol. Bydd hwn yn cael ei gyhoeddi ar y cyd â’n datganiad Lles 2020-2021 a Chynllun Blynyddol 2020-2021.

Mae Estyn yn llunio adroddiad cynaliadwyedd bob blwyddyn sy’n rhoi crynodeb o berfformiad amgylcheddol Estyn yn unol â’n hamcanion amgylcheddol. Mae’r adroddiad cynaliadwyedd hwn, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2019, yn cynnwys cydymffurfiad Estyn â dyletswydd adran 6, a dylid ei ddarllen ar y cyd ag adroddiad les Estyn 2019-2020.