Cyfarwyddwr Anweithredol ac Aelod o’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg
Ymunwch â’n tîm fel Cyfarwyddwr Anweithredol ac Aelod o’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg
Rydym yn chwilio am unigolion, sydd wedi eu cymell i sicrhau safonau uchel yn y system addysg a hyfforddiant yng Nghymru, i ymuno â’n Bwrdd Strategaeth a’n Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg o fis Medi 2025.
Byddwch yn cynnig safbwynt allanol i drafodaethau, yn ogystal â her adeiladol annibynnol – gan ehangu ein syniadau gyda’ch profiadau amrywiol. Bydd eich mewnbwn yn helpu sicrhau ein bod yn parhau i ddatblygu fel sefydliad sector cyhoeddus modern.
Bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus brofiad neu fedrau sylweddol mewn un neu fwy o’r meysydd canlynol:
• Arweinyddiaeth
• Meddwl yn strategol
• Rheolaeth ariannol (ar gyfer o leiaf un o’r rolau)
• Mesur a rheoli perfformiad
• Deall sefydliadau’r sector cyhoeddus
• Cefndir mewn addysg
• Llywodraethu
• Archwilio a rheoli risg
Rydym yn croesawu ceisiadau yn arbennig gan ymgeiswyr o gymunedau pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig i gynyddu ein hamrywiaeth o ran syniadau a phrofiadau bywyd.
Dyddiad Cau: dydd Llun, 7 Ebrill 2025 am 10:00yb
I gael mwy o wybodaeth amdanom ni, y rolau a sut i wneud cais, lawrlwythwch y pecyn a’r ffurflen gais: