Cynllun Blynyddol Estyn 2024-2025 - Estyn

Cynllun Blynyddol Estyn 2024-2025


Ein gweledigaeth yw gwella ansawdd addysg a hyfforddiant a deilliannau i bob dysgwr yng Nghymru. Mae dysgwyr wrth wraidd ein gwaith a’n cenhadaeth yw cynorthwyo darparwyr addysg a hyfforddiant i ddatblygu diwylliant o hunanwella a dysgu trwy ein cyngor, arolygu a meithrin gallu.

Mae ein hamcanion strategol yn diffinio’n fanylach yr hyn y gallwn ei gynnig yn unigryw i helpu hyrwyddo rhagoriaeth yn y system ac mae ein gwerthoedd yn adlewyrchu’r diwylliant sydd wrth wraidd ein gwaith. Mae adran ddiweddarach yn y cynllun hwn yn esbonio ein hamcanion strategol yn fanwl, ynghyd â sut rydym yn cyflawni ein gwaith.