Rheoli Presenoldeb Polisi a Gweithdrefnau - Estyn

Rheoli Presenoldeb Polisi a Gweithdrefnau


Mae’r polisi hwn yn berthnasol i’r holl gyflogeion gan gynnwys y rhai ar benodiadau cyfnod penodol. Mae cyflogeion sydd ar fenthyg i Estyn ac ar secondiad allan o Estyn wedi’u cynnwys o fewn cwmpas y polisi hefyd. Nid yw’n berthnasol i weithwyr asiantaeth neu gontractwyr. Cyfeiriwch at y Polisi a gweithdrefn cyfnod prawf i gael cyngor ar sut i reoli absenoldeb salwch i gyflogeion yn ystod eu cyfnod prawf a’r Canllaw i Weithwyr Dros Dro i gael cyngor ar sut i reoli absenoldeb salwch Gweithwyr Dros Dro.