Sbarduno arloesedd mewn addysg trwy ddeallusrwydd artiffisial: rhannwch eich profiad - Estyn

Sbarduno arloesedd mewn addysg trwy ddeallusrwydd artiffisial: rhannwch eich profiad

Erthygl

Wrth i addysg barhau i esblygu, mae twf deallusrwydd artiffisial yn cyflwyno heriau a chyfleoedd. Ledled Cymru, mae darparwyr addysg a hyfforddiant yn dechrau archwilio sut gall deallusrwydd artiffisial gefnogi eu gwaith, o symleiddio tasgau gweinyddol i wella profiadau dysgu. Rydym ni yn Estyn ar daith debyg, gan archwilio sut gall ddeallusrwydd artiffisial ein helpu i wella’r ffordd rydym yn arolygu ac ymgysylltu ag ysgolion.

Gallwch ein helpu i ddeall defnyddio deallusrwydd artiffisial ym myd addysg ac yng Nghymru yn well a helpu i lywio ei ddyfodol trwy lenwi ein harolwg byr: Deallusrwydd artiffisial ym myd addysg – rhannwch eich barn

Deallusrwydd Artiffisial ym Myd Addysg yng Nghymru: Dechrau’r Daith

Mae ysgolion a darparwyr hyfforddiant yng Nghymru yn dechrau gweld potensial deallusrwydd artiffisial. Boed hynny’n bersonoli dysgu i weddu i gryfderau unigol neu ddefnyddio offer a ysgogir gan ddeallusrwydd artiffisial i leihau llwyth gwaith, mae diddordeb cynyddol yn yr hyn y gall y dechnoleg hon ei wneud. Er bod rhai eisoes yn arbrofi â deallusrwydd artiffisial, mae eraill yn cymryd y camau cyntaf petrus, yn awyddus i ddeall sut i wneud y mwyaf ohono’n ddiogel ac yn effeithiol.

Ymagwedd Estyn: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial i Wella, Nid Disodli

Yn yr un modd ag ysgolion, rydym ni yn Estyn yn archwilio sut gall deallusrwydd artiffisial gefnogi ein gwaith. Rydym wedi bod yn canolbwyntio ar sut gall deallusrwydd artiffisial helpu i ryddhau mwy o amser i arolygwyr ymgysylltu’n uniongyrchol ag athrawon, rhieni, a dysgwyr. Trwy awtomeiddio tasgau arferol a’n helpu i ddadansoddi gwybodaeth yn fwy effeithlon, gallwn dreulio mwy o amser yn cael sgyrsiau ystyrlon a mynd i wraidd yr hyn sy’n digwydd mewn ysgolion a darparwyr hyfforddiant.

Wrth gwrs, mae’n rhaid defnyddio deallusrwydd artiffisial yn gyfrifol. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio’n ddiogel ac yn foesegol, gan sicrhau ei fod yn cefnogi yn hytrach na disodli barn ac arbenigedd dynol.

Dysgu gan ein Partneriaid Ewropeaidd

Er mwyn ein helpu ar y daith hon, rydym wedi bod yn gweithio’n agos gydag arolygiaethau addysg eraill ledled Ewrop. Trwy rannu syniadau a dysgu o’n profiadau ein gilydd, rydym yn datblygu dealltwriaeth well o sut gellir defnyddio deallusrwydd artiffisial ym maes addysg ac arolygu. Mae’r cydweithrediad rhyngwladol hwn yn ein helpu i ffurfio ein hymagwedd ein hunain, gan sicrhau ein bod yn cynnal ein gwybodaeth am arfer gorau a datblygiadau newydd.

Adolygiad Thematig: Deall Deallusrwydd Artiffisial mewn Ysgolion

Yn rhan o’n gwaith, rydym yn cynnal adolygiad thematig ar ran Llywodraeth Cymru i gael darlun cenedlaethol o sut mae deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio mewn ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion. Rydym eisiau deall sut mae deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio mewn ystafelloedd dosbarth, beth sy’n gweithio’n dda, a beth yw’r heriau. Yn bwysicach, rydym eisiau casglu enghreifftiau o arfer effeithiol y gallwn eu rhannu ag eraill. Bydd canfyddiadau’r adolygiad hwn yn helpu i ffurfio canllawiau a chymorth ar gyfer ysgolion ledled Cymru yn y dyfodol.

Gyda’n gilydd, gallwn lywio’r maes newydd a chyffrous hwn, gan gynorthwyo ein gilydd ar y daith a sicrhau bod deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio mewn ffyrdd sydd o fudd i ddysgwyr, athrawon, a’r system addysg ehangach.