Adolygiad Blynyddol o’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2015-2016
Y ddogfen hon yw’r Pedwerydd Diweddariad Cynnydd Blynyddol yn erbyn Cynllun Cydraddoldeb Strategol (CCS) Estyn ac Amcanion Cydraddoldeb 2012-2016 ac mae’n cwmpasu’r cyfnod 2015-2016.
Cyhoeddwyd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn Ebrill 2012 gan Estyn ar ôl ystyried arfer orau, cyfrifoldebau cyfreithiol a thrafodaethau lleol. Mae’r CCS yn cefnogi Amcanion Cydraddoldeb Estyn ac yn amlinellu gwybodaeth allweddol am ein gweithgarwch cydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau dynol. Yn ogystal â chyflawni ein dyletswydd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae’n ystyried ystod eang o ddeddfwriaeth arall sy’n gysylltiedig â chydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae adolygiadau’r blynyddoedd blaenorol wedi eu cyhoeddi ar wefan Estyn. Mae’r CCS 2016-2020 ar wefan.
Mae dyletswydd gyffredinol Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus roi ‘ystyriaeth briodol’ i’r angen i:
- ddileu gwahaniaethu, aflonyddwch ac erledigaeth anghyfreithlon ac ymddygiad arall sy’n cael ei wahardd gan y Ddeddf
- datblygu cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a’r rheiny nad ydynt yn rhannu nodwedd
- meithrin perthnasoedd da rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rheiny nad ydynt yn rhannu nodwedd
Mae’r CCS yn cwmpasu’r holl nodweddion gwarchodedig sy’n ofynnol gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010:
- oedran
- anabledd
- ailbennu rhywedd
- priodas a phartneriaeth sifil
- beichiogrwydd a mamolaeth
- hil (gan gynnwys tarddiad ethnig neu genedlaethol, lliw neu genedligrwydd)
- crefydd neu gred (neu ddiffyg cred)
- rhyw a chyfeiriadedd rhywio