Polisi iaith Gymraeg Estyn - Estyn

Polisi iaith Gymraeg Estyn


Caiff y polisi hwn ei gefnogi’n llawn gan Brif Arolygydd ei Mawrhydi a thîm rheoli uwch Estyn. Mae gweithgor iaith Gymraeg Estyn yn cynnwys cynrychiolwyr o bob lefel o’r sefydliad ac mae’n cwrdd yn rheolaidd er mwyn monitro a chefnogi’r modd y caiff y polisi ei weithredu. Mae’r sefydliad wedi ymrwymo i sicrhau llwyddiant y polisi.

Rydym yn trin yr iaith Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal yn ein gwaith, yn fewnol ac wrth arolygu addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Cenhadaeth Estyn yw parhau i gyflawni rhagoriaeth ar gyfer pob dysgwr yng Nghymru trwy ddarparu gwasanaeth arolygu a chyngor annibynnol, o ansawdd uchel. Ein gweledigaeth yw cael ein cydnabod trwy arbenigedd ein staff fel llais awdurdodol ar addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Rydym yn gweld yr iaith Gymraeg yn rhan annatod o’r weledigaeth hon.

Mae’r polisi hwn yn amlinellu sut rydym yn darparu ein gwasanaethau iaith Gymraeg yn fewnol ac yn allanol. Mae’r polisi yn ystyried yn llawn ofynion safonau’r iaith Gymraeg ac yn adlewyrchu’n harfer cyfredol ar draws y meysydd hynny y mae’r safonau yn ymwneud â nhw.

Mae Estyn wedi mabwysiadu’r egwyddor ein bod yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth gyflawni busnes cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r polisi yn amlinellu’r modd y mae Estyn yn gweithredu yn unol â’r egwyddor honno wrth ddarparu gwasanaethau ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru.