Darparu cymorth effeithiol ar gyfer prentisiaid ag anghenion dysgu ychwanegol

Arfer effeithiol

Gower College Swansea


Gwybodaeth am yr ysgol / y darparwr

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn gweithio mewn partneriaeth â saith is-gontractwr i gyflwyno rhaglenni prentisiaeth ar lefelau 2 i 5 ledled Cymru. Mae’r coleg yn cyflwyno tua 85% o’i ddarpariaeth prentisiaethau yn uniongyrchol, ac is-gontractwyr yn cyflwyno 15%. Mae darpariaeth prentisiaethau wedi tyfu’n sylweddol er 2016, o ryw 250 o ddysgwyr i ryw 3,000 yn 2022-2023. Mae’r darparwr yn cynnig ystod eang o brentisiaethau ar draws sectorau, llwybrau a lefelau, gan weithio gyda thros 1,200 o gyflogwyr.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae adroddiadau’r llywodraeth yn amlygu gwahaniaethau cyflogaeth yn gyson ar gyfer unigolion ag anableddau. Yn 2022, roedd 49% o unigolion ag anabledd yn cael eu cyflogi, o gymharu ag 82% o unigolion nad oeddent yn anabl (Llywodraeth Cymru, 2023). Mae hyn hyd yn oed yn fwy amlwg ar gyfer pobl ag anawsterau dysgu. Mae adroddiadau hefyd yn adlewyrchu bod pandemig COVID-19 wedi cael effaith anghymesur ar gyfraddau cyflogaeth unigolion anabl (Llywodraeth Cymru, 2021). Pwysleisiodd hyn fod angen gwneud prentisiaethau’n fwy hygyrch.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Bu Coleg Gŵyr Abertawe yn adolygu a gwella’i ymagwedd at nodi a chefnogi prentisiaid ag anableddau a’r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) posibl, gan hyrwyddo’r cymorth helaeth sydd ar gael i ddysgwyr ag anableddau, namau synhwyraidd, ADY, a chyflyrau iechyd sy’n cyfyngu ar waith / bywyd. Mae llawer o unigolion wedi wynebu heriau dysgu a gwaith heb ddiagnosis ffurfiol na chymorth hyd nes eu bod yn dechrau ar eu prentisiaethau. 

Yn 2018, cyflwynodd y coleg ei fenter ‘Prentisiaethau i Bawb’. Ar draws partneriaid cyflwyno mewnol ac allanol, datblygodd ymagwedd gynhwysol ‘tîm o amgylch y prentis’, yn cynnwys: 

  • Ailstrwythuro’i adran niwroamrywiaeth i integreiddio arbenigwyr dynodedig o fewn y tîm dysgu yn y gwaith; gyda chyfarfodydd cynhadledd achosion gweithredol a rheoleiddiol rheolaidd rhwng timau dysgu yn y gwaith ac ADY 
  • Defnyddio arbenigwyr mewnol ac allanol ar gyfer asesiadau diagnostig 
  • Datblygu adnoddau i ymestyn diagnosteg a chymorth arbenigol 
  • Diwygio prosesau derbyn ar gyfer prentisiaethau, i nodi anabledd / ADY posibl yn gynharach 
  • Gweithredu llwybr dilyniant prentisiaeth ar gyfer myfyrwyr medrau byw yn annibynnol (MBA) trwy’r rhaglen interniaeth Chwilio am Brosiect; mae hyn yn darparu profiad gwaith gwerthfawr mewn sectorau o ddiddordeb i gefnogi dilyniant i gyflogaeth tymor hir am dâl trwy brentisiaeth a gefnogir 
  • Gweithredu rhaglen codi ymwybyddiaeth a DPP ar gyfer staff sy’n cyflwyno prentisiaethau a rheolwyr 
  • Cysylltu â chyflogwyr i godi ymwybyddiaeth am ADY ac ymestyn cymorth ac addasiadau i’r gweithle 
  • Defnyddio cyllid iechyd meddwl a lles Llywodraeth Cymru ar gyfer hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl a datblygu pecyn cymorth ar-lein ar gyfer prentisiaid, staff cyflwyno a chyflogwyr 

Gwelir proses y Coleg ar gyfer cefnogi ADY / Niwroamrywiaeth isod.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r fenter hon wedi cael effaith sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf (2020-2021 i 2022-2023). Mae’r newid diwylliannol dilynol yn gwella cydraddoldeb yn sylweddol: 

  • Cynyddodd cyfradd recriwtio prentisiaid o 1.6% o ddechrau prentisiaethau yn 2015 i 10% yn 2022/2023 
  • Dechreuodd 375 o ddysgwyr ag ADY neu anableddau ar daith prentisiaeth 
  • Trwy weinyddu 62 o asesiadau diagnostig allanol, cafwyd dealltwriaeth gynhwysfawr o anghenion dysgwyr, gan alluogi darparu strategaethau cymorth pwrpasol ar gyfer dysgu, gwaith a bywyd 
  • Cynhaliwyd 44 o asesiadau diagnostig mewnol, gan alluogi nodi’n gynnar i lywio trefniadau mynediad 
  • Dathlu cyflawniad; mae 165 o brentisiaid ag ADY neu anabledd wedi cwblhau eu fframwaith prentisiaeth yn llwyddiannus 
  • Ar hyn o bryd, mae 295 o unigolion ag ADY neu anabledd ar brentisiaethau lefel 2 i lefel 5 ar y trywydd iawn i lwyddo 
  • Medrau, gwybodaeth a hyder cynyddol ar gyfer staff cyflwyno i nodi a thrafod ADY posibl gyda dysgwyr a’u cyflogwyr i fanteisio ar gymorth 
  • Tueddiadau gwella parhaus flwyddyn ar ôl blwyddyn ar gyfer prentisiaid ag ADY neu anableddau: er enghraifft, mae cyrhaeddiad wedi cynyddu o 49% i 70%; mae cyfraddau cadw wedi cynyddu o 68% i 84%; a chyfraddau bron yr un faint â chyfraddau prentisiaid heb anghenion dysgu ychwanegol, neu’n rhagori arnynt

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r coleg wedi cyflwyno rhaglenni dysgu proffesiynol ar gyfer yr holl bartneriaid cyflwyno mewnol ac allanol (wedi’u his-gontractio) ac wedi creu adnoddau a hyfforddiant ar gyfer cyflogwyr perthnasol. Maent wedi rhoi cyflwyniadau i fyrddau cyflogwyr ac wedi rhannu astudiaethau achos trwy Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a Colegau Cymru ar gyfer y rhwydwaith darparwyr dysgu yn y gwaith. Yn olaf, mae’r coleg wedi ennill gwobrau’r DU ar gyfer yr arfer hon, wedi creu astudiaethau achos ac erthyglau newyddion i rannu arfer dda.


Darparu cymorth effeithiol ar gyfer prentisiaid ag anghenion dysgu ychwanegol - Estyn