Effaith gwaith trawsgyfarwyddiaethol ar wasanaethau addysg ym Mro Morgannwg

Arfer effeithiol

Vale of Glamorgan Council


Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Bu ymgorffori ethos cryf ar gyfer gwaith trawsgyfarwyddiaethol wrth wraidd gwaith yr awdurdod lleol i sbarduno gwelliant ar draws gwasanaethau addysg a sicrhau deilliannau cadarnhaol i’w ddysgwyr. 

Darparodd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol lwyfan defnyddiol i’r awdurdod lleol roi ffocws cryf ar yr angen i sicrhau bod pob cyfarwyddiaeth yn yr awdurdod lleol yn cydweithio’n effeithiol â’i gilydd i gyflawni ei amcanion llesiant a chyfrannu at y saith nod llesiant cenedlaethol. O ganlyniad, gweithiodd arweinwyr yn dda i ddatblygu ymagwedd gydweithredol at gyflawni ei flaenoriaethau gwella ar draws cyfarwyddiaethau, yn hytrach na thrwy seilos gwasanaeth. 

I hwyluso gwaith trawsgyfarwyddiaethol llwyddiannus, canolbwyntiodd yr awdurdod lleol ar: 

  • Godi proffil gwasanaethau addysg a blaenoriaethau ar draws yr awdurdod lleol i flaenoriaethu’r defnydd effeithiol o adnoddau. 
  • Sicrhau bod staff yn gweithio’n gydweithredol i gefnogi cymunedau’r awdurdod lleol. 
  • Cryfhau ei weledigaeth gorfforaethol a mynegiad blaenoriaethau gwella addysg trwy bob agwedd ar waith. 
  • Rhoi lle blaenllaw a chanolog i lesiant yn yr hyn y mae’n ei wneud, gan ganolbwyntio ar grwpiau bregus. 
  • Datblygu ei arlwy dysgu proffesiynol i ddatblygu setiau medrau staff, fel eu bod yn barod i fynd i’r afael â heriau nawr ac yn y dyfodol. 
  • Gwella her ‘cyfeillion beirniadol’ ar draws pob cyfarwyddiaeth i hyrwyddo dysgu ar y cyd a sbarduno trafodaethau yn ymwneud â gwella.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Daeth gwaith trawsgyfarwyddiaethol yn un o gryfderau allweddol yr ALl o ran sbarduno gwelliant ar draws gwasanaethau addysg drwy: 

  • Ddatblygu system cynllunio gwelliannau integredig a oedd yn galluogi’r ALl i ddatblygu blaenoriaethau gwella cytûn sy’n adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau ei gymunedau a’i ddinasyddion a datblygu diwylliant o gydweithio ar draws cyfarwyddiaethau’r ALl. 
  • Mae mynegi gweledigaeth gytûn ar gyfer yr ALl, sef ‘Cymunedau Cryf â Dyfodol Disglair’, yn rhwymo ei ymdrechion cyfunol i gyflawni nod cyffredin. Mae’r weledigaeth hon yn llifo i amcanion cytûn a blaenoriaethau gwella’r ALl, sy’n cael eu hadlewyrchu mewn un Cynllun Cyflawni Blynyddol (CCB), lle mae’r pwyslais ar waith trawsgyfarwyddiaethol. Caiff y CCB ei lunio ar y cyd yn flynyddol gan uwch arweinwyr (ar draws yr ALl), Aelodau Etholedig ac ag ymgysylltiad helaeth gan staff, dinasyddion, partneriaid ac ysgolion. 
  • Ymgorffori cyfleoedd ar gyfer her gyfunol fel rhan o broses hunanasesu flynyddol yr ALl. Mae cyfarwyddwyr cymheiriaid ac aelodau etholedig (Cabinet a Chraffu) yn mynychu sesiynau herio gan gymheiriaid i weithredu fel ‘cyfaill beirniadol’ i herio canfyddiadau a barnau hunanasesu pob cyfarwyddiaeth i sicrhau gonestrwydd, tegwch a chysondeb. 
  • Datblygu dulliau effeithiol i ddyrannu adnoddau sy’n gysylltiedig â blaenoriaethau’r CCB trwy’r broses flynyddol o osod cyllideb, gyda chyfraniad cyfunol aelodau etholedig, swyddogion o bob rhan o’r Cyngor a phenaethiaid. O ganlyniad, bu ffocws cryf ar addysg fel blaenoriaeth allweddol, sy’n amlwg wrth i 39% o gyllideb y Cyngor gael ei ddyrannu i ysgolion (~£115m). 
  • Meithrin gweithio ar y cyd ar draws yr ALl trwy gyfarfodydd rheolaidd ac effeithiol yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth a Briffiau Prif Swyddogion y Bwrdd Mewnwelediad. Mae’r rhain yn darparu dulliau i swyddogion o bob un o’r cyfarwyddiaethau ddod at ei gilydd i wneud penderfyniadau ar y cyd, datblygu safbwyntiau newydd ac mae’n cynnig cyfleoedd i ennyn cefnogaeth ar draws yr ALl i ddatrys problemau a datblygu gwasanaethau sy’n arwain at fanteision cadarnhaol i’n dysgwyr, staff a chymunedau. 
  • Mae ymgorffori ‘cymuned ddysgu gref’ gyda diwylliant o gydweithio mewn dysgu wedi’i ysgogi gan Lyfr Diwylliant yr ALl. Mae’r ALl wedi defnyddio ei blatfform dysgu iDev a’i Gaffi Dysgu (rhwydwaith datblygiad proffesiynol mewnol) yn effeithiol i hyrwyddo ac ymgysylltu â dysgu a datblygu. Bu’r Caffi Dysgu yn ddull allweddol i ymgysylltu â staff a gwella datblygiad proffesiynol i gydweithwyr ddysgu oddi wrth ei gilydd, rhannu arfer dda a mynegi syniadau i fynd i’r afael â heriau allweddol y mae’r ALl yn eu hwynebu. 
  • Blaenoriaethu lles fel maes ffocws craidd i alluogi cydweithio effeithiol yn ein cymunedau. Mae’r gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau wedi arwain y ffordd o ran datblygu Ymagwedd Ysgol Gyfan at les, fel bod hyn wedi’i ymgorffori ar draws ysgolion a gwasanaethau canolog yr ALl. 
  • Creu cyfleoedd pwrpasol i gyfranogi a chydweithio ar draws cyfarwyddiaethau, gyda swyddogion arweiniol y tu mewn a’r tu allan i wasanaethau addysg, i fanteisio ar fedrau, arbenigedd a safbwyntiau ar draws y Cyngor i gefnogi’r gwaith o gyflwyno mentrau allweddol, fel Ysgolion Bro, y Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf (SHEP)/Bwyd a Hwyl, mentrau tlodi/costau byw fel Pantrïoedd Talu fel ry’ch chi’n Teimlo/Big Bocs Bwyd, Ymdrechu/Atal NEET, datblygu’r Pecyn Cymorth Cynhwysiant Trawsryweddol a chyflwyno’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy
  • Canolbwyntio ar ddatblygu ysgolion bro a defnyddio dull yn seiliedig ar glwstwr i gydweithredu â chydweithwyr o feysydd iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau corfforaethol a gwasanaethau cymdogaeth i leihau effaith tlodi ar blant a phobl ifanc, fel sydd i’w weld yn y gwaith a wneir yng Nghymuned Ddysgu Pencoedtre. 
  • Daeth rhaglen drawsnewid gyffredinol yr ALl â medrau/arbenigedd swyddogion o bob cyfarwyddiaeth at ei gilydd i ail-lunio modelau darparu gwasanaeth. Mae The Big Fresh Catering Company yn fodel arlwyo arloesol a chynaliadwy a ddeilliodd o’r rhaglen drawsnewid hon, gyda mewnbwn a chyfraniadau gan bob rhan o’r cyngor, a dyma oedd y prif alluogydd yn y broses garlam o gyflwyno’r ddarpariaeth Prydau Ysgol am Ddim i holl blant Ysgolion Cynradd ar draws holl ysgolion cynradd y fro. Mae hefyd wedi defnyddio ei wargedion i ailfuddsoddi mewn ysgolion, sydd wedi cael effaith amlwg. 
  • Gwneud y defnydd gorau posibl o gyllid grant i gefnogi dysgwyr difreintiedig. Er enghraifft, dirprwyo grantiau i gefnogi gwaith Rheolwyr Ysgolion Bro a Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd yng Nghymuned Ddysgu Pencoedtre, dosbarthu cyfran elw The Big Fresh Catering Company i ysgolion a chydweithio â’r Tîm Byw’n Iach i ddarparu gweithgareddau chwaraeon/corfforol wedi’u targedu yng nghymunedau mwyaf difreintiedig a lleiaf egnïol yr ALl.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

  • Mae mabwysiadu Cynllun Cyflawni Blynyddol cyfrannol wedi sicrhau cydgyfrifoldeb am flaenoriaethau addysg yr ALl ac wedi hyrwyddo diwylliant o gydweithio i fynd i’r afael â heriau hollbwysig yr ALl. Mae hyn yn golygu bod uwch arweinwyr o bob cyfarwyddiaeth yn deall pwysigrwydd blaenoriaethu addysg. 
  • Mae dull herio cymheiriaid blynyddol wedi cael effaith gadarnhaol ar berthnasoedd trawsgyfarwyddiaethol a chyfleoedd i feithrin mwy o gydweithio i integreiddio gwasanaethau’n effeithiol. Mae hyn hefyd wedi helpu i wella ansawdd cynllunio gwelliant ac wedi datblygu cydberchnogaeth o gamau gweithredu i wella bywydau pobl ifanc yn y Fro. 
  • Mae ymagwedd gydweithredol yr ALl at ddysgu proffesiynol wedi gwella setiau medrau unigol, ysgogi arloesedd a meithrin diwylliant o welliant parhaus. 
  • Mae ymgysylltiad rhagorol gan ysgolion yn yr Ymagwedd Ysgol Gyfan at Iechyd Meddwl a Lles yn dangos bod bron pob ohonynt yn cyfrannu at gynllunio gwelliant i lywio cynlluniau datblygu ysgolion. 
  • Mae blaenoriaethau clir a chytûn ar gyfer dysgwyr difreintiedig a dysgwyr bregus, ynghyd â chyllid cyfatebol wedi’i ddyrannu ar gyfer blaenoriaethau gwella addysg. Bu hyn yn amlwg trwy fuddsoddi mewn sawl darpariaeth ADY newydd i fodloni’r cynnydd yn y galw. 
  • Mae The Big Fresh Catering Company yn arbed cyllid blynyddol o tua £400,000 y flwyddyn i’r cyngor ac mae wedi cael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles dysgwyr. Caiff yr holl wargedion eu hailfuddsoddi mewn ysgolion, sydd yn fwyaf diweddar wedi creu £200,000 ychwanegol, gan helpu i leihau diffygion mewn cyllidebau ar draws ysgolion a/neu eu helpu i brynu offer ysgol. 
  • Mae gwaith wedi’i dargedu yng Nghymuned Ddysgu Pencoedtre yn defnyddio Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd wedi cael effaith gadarnhaol ar bresenoldeb mewn ysgolion cynradd yn y clwstwr (Cadoxton, Colcot, Holton, Jenner ac Oakfield). 
  • Mae’r ffocws ar ymgysylltu â theuluoedd i gynorthwyo i ddatblygu medrau llythrennedd wedi cael effaith gadarnhaol ar addysgu a dysgu ar draws yr ysgolion hyn ac wedi cyfrannu at wella ansawdd ysgrifennu disgyblion cynradd. 
  • Mae effaith ymdrechion ar y cyd trwy’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg ac, yn ehangach, yn Strategaeth Hybu’r Gymraeg y Cyngor, wedi cyfrannu’n gadarnhaol at gadw dysgwyr Blwyddyn 1 mewn addysg cyfrwng Cymraeg a lefelau pontio uchel rhwng grwpiau blwyddyn mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Ar gyfer 2023/24, trosglwyddodd 95% o ddysgwyr o ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg i ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg ar ddiwedd Blwyddyn 6. 
  • Darparodd gwaith targedig gan y Tîm Byw’n Iach yn 2023/24 yng nghymunedau mwyaf difreintiedig a lleiaf egnïol yr ALl 134 o sesiynau chwaraeon/ymarfer corff am ddim, a effeithiodd ar 699 o blant. Roedd 87% o’r cyfranogwyr yn teimlo mwy o gymhelliant ac yn fwy hyderus i gymryd rhan mewn gweithgareddau a nododd 60% yr hoffent ymuno â chlybiau lleol a pharhau â’u gweithgareddau. 
  • Mae ffigurau NEET yr ALl yn gymharol isel o hyd o gymharu ag ALlau eraill yng Nghymru. Yn ystod 2022/23 (carfan ymadawyr 2022), daeth 2.46% o ddysgwyr Blwyddyn 13, 0.24% (Blwyddyn 12) ac 1.49% o ddysgwyr Blwyddyn 11 yn NEET, yr oedd y ddau ohonynt yn well na ffigurau Cymru gyfan. Roedd hyn yn golygu bod yr ALl yn y 9fed safle yng Nghymru (Blwyddyn 13), y 4ydd safle yng Nghymru (Blwyddyn 12) a’r 5ed safle yng Nghymru (Blwyddyn 11) yn y drefn honno

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae’r ALl wedi defnyddio ystod o ddulliau a rhwydweithiau yn effeithiol i rannu ei arfer dda ar draws ei dimau, cyfarwyddiaethau ac, yn ehangach, gydag ALlau eraill a phartneriaid allanol. Mae wedi gwneud hyn drwy: 

  • rannu negeseuon cyfarwyddiaethau’n rheolaidd ar draws y Cyngor drwy grynodebau wythnosol y Prif Weithredwr, gan roi sylw i arfer nodedig ar draws gwasanaethau addysg a chyfarwyddiaethau eraill. Caiff y negeseuon allweddol hyn eu rhannu’n aml mewn cyfarfodydd penaethiaid ysgolion, hefyd; 
  • defnyddio’r Bwrdd Mewnwelediad, Briffiau’r Prif Swyddogion, diwrnodau’r Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau, a’r Caffi Dysgu i gefnogi dysgu ar y cyd ac arfer dda rhwng cyfarwyddiaethau i feithrin arloesedd a gwelliant parhaus; 
  • datblygu a rhannu astudiaethau achos i amlygu meysydd lle mae arfer effeithiol ac arloesol ar waith; a 
  • rhannu arbenigedd a gwybodaeth a digwyddiadau/rhwydweithiau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Effaith gwaith trawsgyfarwyddiaethol ar wasanaethau addysg ym Mro Morgannwg - Estyn