Beth rydym yn ei wneud
Cyngor ac arweiniad
Yn ogystal ag arolygu, rydym yn cynghori ac yn arwain Llywodraeth Cymru ar ansawdd a safonau addysg a hyfforddiant.
Rydym yn gwneud hyn trwy ein hadroddiadau thematig, sy’n cael eu comisiynu gan y Gweinidog Addysg ac yn cwmpasu ystod o sectorau a themâu. Bwriad ein hadroddiadau yw annog meddwl yn ehangach a rhannu arfer effeithiol.
Darllenwch ymateb Llywodraeth Cymru i’n hadroddiadau thematig.
Pam rydym yn arolygu
Mae deddfwriaeth yn nodi pwerau Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys yr hyn y gall neu y mae’n rhaid i’r Prif Arolygydd ei arolygu ac adrodd arno, pa mor aml y mae’n rhaid i ysgolion a darparwyr eraill gael eu harolygu a manylion ar gyfer cyhoeddi adroddiadau arolygu.
Deddfwriaeth
Dan Ddeddf Addysg 2005, mae gan y Prif Arolygydd ddyletswydd i roi gwybod i Senedd Cymru am ansawdd yr addysg mewn ysgolion. Gall hefyd gynghori ar faterion sy’n gysylltiedig ag ysgolion neu ysgol benodol.
Yn yr un modd, dan y Ddeddf Dysgu a Sgiliau, gall y Prif Arolygydd gynghori Senedd Cymru ar faterion sy’n ymwneud ag addysg neu hyfforddiant i’r rhai 16 oed neu’n hŷn mewn darparwyr sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Y brif ddeddfwriaeth sylfaenol sy’n llywodraethu ein harolygiadau yw:
- Deddf Addysg 2005 (lleoliadau meithrin nas cynhelir, ysgolion a gynhelir ac UCDau)
- Deddf Addysg 2002 (ysgolion annibynnol)
- Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 (darparwyr ôl-16)
- Deddf Addysg 1997 (awdurdodau lleol)
- Deddf Addysg 1994 (hyfforddiant athrawon)
Mae’r ddeddfwriaeth yn cynnwys gofynion ychwanegol ar gyfer rhai sectorau addysg a hyfforddiant, yn enwedig ysgolion a gynhelir. Mae’n cynnwys darpariaeth ar gyfer arolygwyr ychwanegol ac Arolygwyr Cofrestredig, ac ar gyfer rhoi ysgolion mewn categorïau sy’n peri pryder, fel mesurau arbennig neu welliant sylweddol.
Mae’r ddeddfwriaeth hefyd yn nodi bod rhaid arolygu pob lleoliad meithrin nas cynhelir, ysgol a gynhelir ac uned cyfeirio disgyblion yn ystod y cyfnod wyth mlynedd rhwng Medi 2016 ac Awst 2023.
Arfer effeithiol
Pan fyddwn yn gweld arfer ddiddorol ac arloesol yn ystod arolygiad, rydym bob amser yn awyddus i’w rhannu.
Rydym yn gwahodd ysgolion a darparwyr eraill i ysgrifennu astudiaethau achos pan rydyn yn credu bod ganddynt rywbeth pwysig i’w rannu.
Gweithio ar y cyd
Rydym yn cydweithio ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac Archwilio Cymru. Gyda’n gilydd, ni yw Arolygu Cymru, sef menter ar y cyd rhwng y pedwar prif gorff arolygu, archwilio ac adolygu yng Nghymru.
Rydym yn arolygu darpariaeth addysg a hyfforddiant yn y sector cyfiawnder trwy gydweithio ag:
- AGC, yn achos cartrefi diogel i blant
- Arolygiaeth Carchardai EF, yn achos carchardai a sefydliadau troseddwyr ifanc
- Arolygiaeth Prawf EF, yn achos Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid
Rydym hefyd yn arolygu dysgwyr yn Lloegr sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ac sy’n mynychu colegau arbennig annibynnol, cyrsiau dysgu yn y gwaith a darpariaeth i bobl ifanc mewn timau troseddau ieuenctid.
Ein strwythur
Owen Evans yw Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi yng Nghymru (PAEM). Mae’n cael ei gefnogi gan ddau Gyfarwyddwr Strategol, chwe Chyfarwyddwr Cynorthwyol (Arolygu), Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Arolygu a Gwasanaethau Canolog) a Chyfarwyddwr Rhaglenni Strategol.
Mae’r holl staff corfforaethol wedi’u lleoli yn ein swyddfa yng Nghaerdydd ac mae Arolygwyr Ei Fawrhydi (AEF) yn gweithio gartref.
Byrddau Strategaeth a Gweithredol
Mae Bwrdd Gweithredol yn cefnogi ac yn cynorthwyo PAEF i arwain a rheoli Estyn.
Mae Bwrdd Strategaeth yn gosod a monitro ein hagenda strategol. Mae ganddo ddau is-bwyllgor: y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a’r Pwyllgor Tâl.
Rydym yn cadw cofrestr o fuddiannau ar gyfer aelodau’r Bwrdd ac ar gyfer yr holl gyflogeion parhaol, secondeion a staff dros dro. Nid oes gan unrhyw un o aelodau’n Bwrdd swydd cyfarwyddwr nac unrhyw fuddiannau sylweddol eraill a allai wrthdaro â’u cyfrifoldeb rheoli.